For information on the Turing Scheme for Academic Year 2024 t0 2025, Please Visit Here. All queries should be directed HERE

Ynglŷn â Chynllun Turing

Y Cynllun Turing yw rhaglen fyd-eang llywodraeth y DU ar gyfer astudio a gweithio dramor. Mae’n darparu cyllid ar gyfer cyfleoedd rhyngwladol ym maes addysg a hyfforddiant ledled y byd.

Gan gefnogi amcanion Prydain Fyd-eang llywodraeth y DU, mae’r Cynllun Turing yn rhoi’r cyfle i sefydliadau yn y DU gynnig profiadau ledled y byd i’w myfyrwyr, eu dysgwyr a’u disgyblion.

Mae cyllid ar gael i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a Thiriogaethau Tramor Prydain o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant drwy addysg uwch, hyfforddiant, prosiectau ysgol, ac addysg bellach neu alwedigaethol. Gall sefydliadau cymwys wneud cais am gyllid drwy’r Cynllun Turing ar gyfer prosiectau sy’n cynnig y cyfle i astudio neu gael profiad gwaith dramor.

Mae’r cyllid hwn yn galluogi sefydliadau i roi cyfle i fyfyrwyr, dysgwyr a disgyblion ddatblygu sgiliau newydd, ennill profiad rhyngwladol hanfodol a rhoi hwb i’w cyflogadwyedd. Gallant hefyd ddatblygu ystod eang o sgiliau meddal, sgiliau iaith a gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. 

Gall sefydliadau feithrin perthynas â chyfoedion rhyngwladol a chael syniadau newydd. Bydd y Cynllun Turing yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth y DU i Brydain Fyd-eang, drwy helpu sefydliadau i wella eu cysylltiadau rhyngwladol presennol a meithrin cysylltiadau newydd ledled y byd.

Ein hamcanion

Er mwyn cyflawni ein nodau fel rhaglen addysg a hyfforddiant fyd-eang, rhaid i brosiectau a ariennir gan y Cynllun Turing ganolbwyntio ar bedwar prif amcan.

  • Prydain Fyd-eang – Yn unol â gweledigaeth Llywodraeth y DU o Brydain Fyd-eang, mae prosiectau Cynllun Turing yn cefnogi lleoliadau o ansawdd uchel, yn gwella partneriaethau presennol, ac yn annog cysylltiadau newydd ledled y byd.
  • Ffyniant Bro – Mae prosiectau’r Cynllun Turing yn ehangu cyfranogiad ac yn cefnogi symudedd cymdeithasol ledled y DU. Dylent helpu a hyrwyddo cyfle cyfartal a mynediad i’r holl fyfyrwyr, dysgwyr a disgyblion beth bynnag fo’u cefndir.
  • Datblygu sgiliau allweddol – Mae’r prosiectau hyn yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu gyrfaoedd. Maent yn darparu’r sgiliau caled a meddal y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac yn pontio’r bwlch rhwng addysg a gwaith.
  • Gwerth i drethdalwyr y DU – Mae’r prosiectau hyn yn optimeiddio gwerth cymdeithasol o ran costau, manteision a risgiau posibl.

Dyddiadau cau a chylchoedd rhaglenni

Mae’r broses ymgeisio bellach wedi dod i ben ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 – 2024

Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r penderfyniadau cyllido yn ystod yr haf.

Dyddiadau cau a chylchoedd y rhaglen

· Mae ffurflen gais Cynllun Turing yn mynd yn fyw –  14 Chwefror 2023

· Mae ceisiadau ar gyfer y Cynllun Turing yn cau – 4:00yh dydd  6 Ebrill 2023

· Cyhoeddi asesiad o ganlyniadau’r ceisiadau – diwedd Mehefin 2023